Bythynnod Gwyliau yng Nghwm Tawe, Cymru

Croeso i dev.walescottages.com – gwe-fan ar gyfer pedwar bwthyn gwyliau hunan-arlwyo yng Nghymru sydd wedi’u hachredu gan Fwrdd Croeso Cymru. Mae’r bythynnod fferm wedi’u lleoli ar bob ochr i gwrt Fferm Plas. Ar un adeg, roedd y bythynnod yn rhan o Stad Plas Cilybebyll – sydd, yn ´l yr hanes, yn dyddio o’r 14eg.

Mae bryniau uchel o dywodfaen ‘pennant’ yn amgylchynu’r bythynnod gan roi iddynt awyrgylch hynod ramantus. Gall ymwelwyr grwydro ar hyd y 120 erw o dir gwledig sydd gerllaw – a’r tir hwnnw’n cynnwys coedwigoedd derw, nentydd a bryniau a golygfeydd godidog o Gwm Tawe, Bae Abertawe a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

“Lle gwyliau breuddwydiol – heddychlon a llawn steil”

Bwthyn Gwyliau yng Nghymru

Y LLEOLIAD DELFRYDOL
Mae’r atyniadau canlynol oll o fewn cyrraedd hawdd i’n bythynnod gwyliau ni, yma yn Ne Cymru:

Dinas Lan-m´r Abertawe
Caerdydd – Prifddinas Cymru
Traethau Euraid Penrhyn Gwyr
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
Rhaeadrau Bendigedig Cwm Nedd
Bro Mebyd Dylan Thomas
Rhai o Gestyll Gorau Prydain
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Parc Gwledig Afan Argoed
Parc Margam
Ogofau Enwog Dan-yr-Ogof
Amgueddfa Werin Cymru
“…….dwy awr a miliwn o filltiroedd i ffwrdd”

Mae gennym ni bedwar bwthyn hunan-arlwyo yma yn Fferm Plas, Cwm Tawe. Os ydych chi’n ystyried dod ar wyliau i Gymru fe fydd y bythynnod yma’n ddelfrydol. Fe allwch chi fod yn sicr o groeso cynnes traddodiadol Gymreig ac fe gewch chi hyd i ddigon o ddeunydd a gwybodaeth i dwristiaid ymhob bwthyn i sicrhau eich bod chi’n cael amser i’w gofio wedi i chi gyrraedd De Cymru.

“Y bwthyn gwyliau gorau i ni aros ynddo fe erioed. Llecyn bach paradwysaidd mewn byd o brysurdeb.”

Pwrpas y we-fan yma yw darparu’r holl wybodaeth y bydd ei hangen er mwyn gallu cynllunio’ch gwyliau yng Nghymru. Y mae’n cynnwys disgrifiadau o’r bythynnod gwyliau sydd gennym a’r fferm gerllaw yn ogystal ¢ digonedd o wybodaeth am Gymru a’r ardal gyfagos.

“O’r holl fannau yr arhoson ni ynddyn nhw yng Nghymru, hwn oedd ein hoff fwthyn”

R’yn ni’n fusnes teuluol ac wedi bod yn croesawu ymwelwyr i Dde Cymru ers deng mlynedd a mwy. Mae ein bythynnod i gyd wedi’u hachredu gan Fwrdd Croeso Cymru ac meant yn ennill marciau llawn yn rheolaidd, o ran y systemau sgorio sydd gan y Bwrdd Croeso ar gyfer bythynnod yng Nghymru.

“Alla’ i ddim dychmygu y gallen ni fod wedi dod o hyd i le gwell i aros yng Nghymru”